Amdanom ni

Beth yw cynllun Bwrlwm Arfor?

Croeso i Bwrlwm Arfor! Casgliad o straeon, gweithdai ac astudiaethau achos yn dathlu twf economaidd a chryfder y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn.

Mae’r wefan yn rhan o gynllun ARFOR, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cronfa arbrofol yw’r rhaglen, sy’n bwriadu creu mwy a gwell swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a chefnogi twf yr iaith.

Bwriad y rhaglen yw gwireddu pedwar cynllun lleol:

  • hybu mentrau a chefnogi twf busnes mewn ardaloedd lle mae canran uchel o’r bobl yn siarad Cymraeg
  • sicrhau swyddi gwell sy’n talu’n well i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hyn ac annog pobl sydd wedi gadael i ddod yn ôl i Wynedd
  • hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd a’r Gymraeg mewn busnesau
  • annog busnesau a phobl sy’n symud i ardaloedd gwledig i werthfawrogi a defnyddio’r Gymraeg

Ceir mwy o wybodaeth am gynlluniau pob sir yma:

Ynys Môn

Gwynedd

Ceredigion

Sir Gaerfyrddin

Bydd y rhaglen ar waith hyd Mawrth 2021. Os am fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â gwybodaeth@rhaglenarfor.cymru