Hoffech chi wybod mwy am Gronfa Her ARFOR?

Rydym yn chwilio am gynlluniau ar hyn o bryd

Uchelgais Cronfa Her rhaglen ARFOR fydd i archwilio datrysiadau sydd yn cryfhau’r berthynas rhwng iaith ac economi, a rydym yn chwilio am gynlluniau sy’n cynnig profi’r canlynol:

  1. Mae defnyddio iaith yn rhoi hwb i’r economi
  2. Mae defnyddio iaith yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth newydd i gyflogwyr a staff
  3. Mae defnyddio iaith yn gallu helpu i greu brand ac atyniad i fusnesau
  4. Mae defnyddio iaith yn gallu tanio ymdeimlad o falchder, gan gynnwys teimlo’n perthyn i gymuned a chael cyfle i siarad â phobl eraill sy’n siarad yr un iaith.

Bydd Cronfa Her ARFOR ar agor i geisiadau cydweithredol rhwng unrhyw unigolion, sefydliadau,  grwpiau cymunedol neu busnesau sy’n barod i ddangos datrysiad arloesol i her sy’n bodoli yn eu cymuned leol.