
Uchelgais Cronfa Her rhaglen ARFOR fydd i archwilio datrysiadau sydd yn cryfhau’r berthynas rhwng iaith ac economi, a rydym yn chwilio am gynlluniau sy’n cynnig profi’r canlynol:
- Mae defnyddio iaith yn rhoi hwb i’r economi
- Mae defnyddio iaith yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth newydd i gyflogwyr a staff
- Mae defnyddio iaith yn gallu helpu i greu brand ac atyniad i fusnesau
- Mae defnyddio iaith yn gallu tanio ymdeimlad o falchder, gan gynnwys teimlo’n perthyn i gymuned a chael cyfle i siarad â phobl eraill sy’n siarad yr un iaith.
Bydd Cronfa Her ARFOR ar agor i geisiadau cydweithredol rhwng unrhyw unigolion, sefydliadau, grwpiau cymunedol neu busnesau sy’n barod i ddangos datrysiad arloesol i her sy’n bodoli yn eu cymuned leol.