Gweithwyr fel Perchnogion: digwyddiad am ddim

Ymunwch â ni i ddeall pam mae dros 1,700 o fusnesau yn y DU o dan Berchnogaeth Gweithwyr

Ymunwch â ni yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn i ddeall pam mae dros 1,700 o fusnesau yn y DU o dan Berchnogaeth Gweithwyr a sut a pham mae Gogledd Cymru mewn lleoliad unigryw a ffrwythlon ar gyfer perchnogaeth gan weithwyr.

Byddwn ni’n clywed gan leisiau blaenllaw ym maes Perchnogaeth Gweithwyr (PG) yng Nghymru a busnesau seiliedig ar Gymru i ddysgu o’u straeon ynghylch adeiladu cyfoeth a rhannu cyfoeth. Byddwn hefyd yn trafod pwysigrwydd cymuned a sut mae PG yn adeiladu etifeddiaeth barhaol yng Nghymru.

 

Yn y digwyddiad byddwn ni yn:

  • Dysgu am sefyllfa Cymru, clywed gan LLC ar pam y gall PG fod yn fodel olyniaeth o ddewis.
  • Archwilio’r gwahanol strwythurau Perchnogaeth Gweithwyr (PG).
  • Cael mewnwelediadau gan fusnesau yng ngogledd Cymru sy’n eiddo i’r gweithwyr.
  • Dysgu am sut mae busnesau PG yn parhau â’u twf a’u llwyddiant.
  • Deall y cymorth PG lleol a chenedlaethol sydd ar gael i’ch busnes.

 

Pryd a ble?

Dydd Iau 29 Mehefin 2023

11.00 – 1.30

Galeri Caernarfon, Doc Victoria, LL55 1SQ

 

Cadw lle yn y digwyddiad