Gweithdai datgarboneiddio

Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o 5 gweithdy penodol am ddim

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o 5 gweithdy penodol AM DDIM ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd symud tuag at sero net ar gyfer y sector. Bydd y rhain yn cael eu darparu gan GEP Environmental.

Wedi’u cyflwyno ar-lein, mae’r pynciau fel a ganlyn:

  • Effeithlonrwydd a Rheolaeth Ynni
  • Systemau Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy
  • Datgarboneiddio Systemau Gwresogi
  • Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio
  • Datgarboneiddio Gwastraff a Deunydd Pecynnu Bwyd

Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys pob sesiwn hyfforddi yn ogystal â’r dyddiadau hyfforddi ar gael.

Rydym yn recriwtio ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech gymryd rhan, cwblhewch y Ffurflen Gais atodedig gan sicrhau eich bod yn ticio’r gweithdai yr hoffech eu mynychu.

Mae’r hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn, ac rydym angen eich ymrwymiad i sicrhau eich bod yn mynychu’r gweithdy o’ch dewis.

Bydd y sesiynau yn cychwyn am 9:30am ac yn rhedeg am 2.5 awr. Byddant yn cael eu cyflwyno yn Saesneg gydag adnoddau dwyieithog ar gael ar gais. Fe’ch gwahoddir i fynychu cymaint ag y dymunwch a chynigir yr opsiwn o sesiwn un i un 30 munud gyda GEP Environmental ar ôl pob sesiwn.

Dyddiadau’r gweithdai:

Cyfres 1: Medi 14, 21, 28, Hydref 5, 12

Cyfres 2: Tachwedd 2, 9, 16, 23, 30

Am ragor o fanylion, cysylltwch â skills-wales@menterabusnes.co.uk neu cliciwch YMA