Cyfle: Gofod Masnachu am Ddim yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023

Nifer cyfyngedig o ofodau masnachu am ddim ar faes y Genedlaethol

Bydd Gwynedd yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i ardal Llŷn ac Eifionydd yr haf yma – cyfle delfrydol i fusnesau micro a bach eu maint i arddangos a gwerthu eu cynnyrch ar y maes.

Bydd tîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd yn cynnig nifer cyfyngedig o ofodau masnachu am ddim ar faes yr Eisteddfod eleni, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i fusnesau newydd, sydd wrthi’n datblygu neu nad ydynt wedi cael gofod ar faes yr Eisteddfod o’r blaen.

Mae ceisiadau yn cau am 5:00pm ar 25 Mehefin 2023, ac mae mwy o wybodaeth yma.