Cychwyn busnes: Costio a phrisio – beth sy’n bwysig?

Gweminar rhad ac am ddim yn rhan o Prosiect Cychwyn Busnes

Her fawr i berchnogion busnes newydd yw gwybod beth i’w godi am eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Gall Syniadau Mawr Cymru eich helpu i ddeall y gwahanol strategaethau prisio sydd ar gael i chi yn ogystal â dangos i chi fod ymylon, rhagolygon a gwybod eich gwerth yn haws nag yr ydych yn ei feddwl.

Erbyn diwedd y gweithdy hwn byddwch yn:

• Gwybod sut i gostio’n effeithiol am eich cynnyrch neu wasanaeth

• Deall sut i ragweld gwerthiannau yn y dyfodol a chynllunio ar gyfer elw

• Ar y llwybr i reoli eich arian a’ch amser.

Mae’r gweminar hwn yn rhan o Prosiect Cychwyn Busnes. Mae Prosiect Cychwyn Busnes yn gyfres o weithdai ar-lein rhad ac am ddim, cyngor a chymorth mentora gan gynghorwyr busnes Syniadau Mawr Cymru a Modelau Rôl i’ch arwain ar eich taith fusnes unigryw. Dysgwch fwy am Prosiect Cychwyn Busnes a’r gweminarau eraill sydd ar gael (yma). Gallwch fynychu ungweminar neu bob un o’r deuddeg yn y gyfres, chi sydd i benderfynu!

Mae’r gweithdy ar 25 Gorffennaf o 10.30 tan 11.30 y bore, ar-lein. Gallwch gofrestru o flaen llaw.