
CEFNDIR
Mae Cronfa Her ARFOR ar agor i geisiadau cydweithredol rhwng unrhyw unigolion, sefydliadau, grwpiau cymunedol neu busnesau sy’n barod i ddangos datrysiad arloesol i her sy’n bodoli yn eu cymuned leol (Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gâr).
Rydym ni’n awyddus i greu cymunedau mentrus o fewn y fro Gymraeg – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n anelu i gadw a chynyddu cyfoeth lleol. Rydym am fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw ein hardaloedd, cefnogi’r defnydd a gwelededd y Gymraeg, annog cydweithio a sefydlu partneriaethau cryf, creu cyfleoedd i bobl a theuluoedd ifanc (≤ 35 oed) aros neu ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid, a’u cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fentro neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sydd yn cyflawni eu dyheadau.
PWRPAS
Pwrpas y gronfa yw i beilota datrysiadau newydd ac arloesol i heriau go iawn sy’n bodoli yn ardal ARFOR (Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gâr) i gryfhau’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg. Gall rhain fod ar lefel lleol a/neu rhanbarthol gyda’r nôd o wella cydlyniant cymunedol i sicrhau cyfleoedd economaidd sy’n gysylltiedig a’r iaith Gymraeg, gan greu cyfleoedd i fwy o bobl i fyw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r prosiect yn ffocysu ar ddod a sefydliadau at ei gilydd, i gydweithio ac i ddatrys heriau lleol a rhanbarthol, a pheilota syniadau arloesol all ddod yn endidau masnachol yn yr hir dymor i sicrhau bywiogrwydd economaidd cymunedau a galluogi pobl i fyw a gweithio mewn ardaloedd Cymraeg.
AMCANION
Rydym yn chwilio am brosiectau fydd yn;
- Defnyddio’r iaith Gymraeg i sbarduno twf economaidd.
- Cryfhau’r dystiolaeth o’r cysylltiad rhwng iaith ac economi.
- Arloesol a threialu datrysiadau newydd i heriau ardal ARFOR.
- Ychwanegu gwerth a sicrhau budd i’r gymuned ehangach.
- Sbarduno cydweithio a dangos partneriaethau clir.
- Gweithredu’n drawsffiniol mewn mwy nag un Awdurdod Lleol (Sir Fôn, Gwynedd,
Ceredigion, Sir Gâr) lle’n bosib.
- Creu gofodau (ffisegol a/neu ddigidol) Cymraeg newydd gan greu’r amgylchiadau
gorau i bobl weithio, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.
FAINT?
Bydd y Gronfa Her Fach yn dyfarnu hyd at £30,000 i brosiectau ymchwil a datblygu.
Bydd hyd at £100,000 ar gael i brosiectau’r Gronfa Her Fawr.
SUT?
- Cwblhau dogfen ‘Datganiad o Ddiddordeb’ yn amlinellu’r her sydd wedi’i hadnabod, y datrysiad posib, ac amcangyfrif o werth y prosiect.
- Yn dilyn y datganiad o ddiddordeb, fe fydd aelod o dim y Gronfa Her yn cysylltu i drafod eich anghenion ymhellach cyn eich gwahodd i fynychu gweithdy/dai pwrpasol.
- Wedi i chi fynychu’r gweithdy/dai berthnasol, fydd gofyn i gwblhau Ffurflen Gais Cronfa Her ARFOR.