
Margaret Ogunbanwo yw perchennog Maggie’s Exotic Foods – cwmni wedi ei leoli ym Mhenygroes, Caernarfon sy’n gwerthu sawsiau, sbeisys ac anrhegion wedi eu hysbrydoli gan fwydydd o Affrica.
Sefydlodd Maggie’r busnes i “ddod a blas o Affrica i Gymru” a dywedodd na fyddai byth wedi dychmygu cychwyn busnes yn unman heblaw Penygroes.
“Dwi’n byw yn yr ardal felly nes i benderfynu cychwyn y cwmni gyda’r gymuned lle dwi’n byw. Fy hoff beth am gael busnes yn yr ardal yw’r gefnogaeth leol.”
Mae’r busnes yn cynnig lot fawr i’r ardal hefyd, ac maent yn falch o allu cynnig amrywiaeth ac ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth iau. Mae Maggie’s Exotic Foods yn creu gwaith yn y fro ac yn helpu’r economi leol trwy brynu a gwerthu yn lleol.
Mae’r iaith Gymraeg yn holl bwysig i weledigaeth y cwmni, a wastad wedi bod:
“Mae’n bwysig i fi gan ei fod yn helpu fi i ddeall fy nghymuned yn well. Dwi wedi dysgu Cymraeg a dwi’n ei ddefnyddio mor aml ac y gallai. Dwi hefyd am gael gwersi ysgrifennu Cymraeg. Ry ni’n siarad â’r cwsmeriaid yn Gymraeg ac mae holl arwyddion y cwmni yn ddwyieithog pan awn i ddigwyddiadau.”
Hyblygrwydd yw hoff beth Maggie am redeg cwmni ei hun, a chael mwynhau ei hardal a “cherdded yn yr awyr agored, a chael heddwch.”
Wrth gynghori pobl sy’n meddwl cychwyn busnes dywed bod “llawer iawn o gefnogaeth a help ar gael, felly cymrwch y cam a gofynnwch am help e.e. Rhwydwaith Busnes Gwynedd.”
A beth yw top tip Maggie i rywun sy’n cychwyn cwmni eu hun? “Mae dysgu dim ond ychydig o Gymraeg wir yn gallu ennyn hoffter y gymuned.”