Lleucu Gwenllian yn holi’r artist, Lisa Taylor. Podlediad Llwyddo’n Lleol 2050

Un o griw Llwyddo’n Lleol 2050 yn holi’r artist, Lisa Taylor. 

Lisa Eurgain Taylor

Lleucu Gwenllian, un o griw Llwyddo’n Lleol 2050 yn holi’r artist, Lisa Taylor.

Mae Lleucu Gwenllian yn un o’r 14 entrepreneur ifanc sy’n rhan o griw Llwyddo’n Lleol 2050. Ei breuddwyd yw agor stiwdio greadigol yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnig llwyfan a sicrwydd i unigolion eraill sy’n rhannu’r un doniau. Mae Lisa Taylor yn artist anhygoel, ac yn enghraifft arbennig o rywun sydd wedi taclo’r ddamcaniaeth nad oes posib llwyddo yn ei milltir sgwâr. Dyma gyfle i Lleucu i’w holi hi am ei phrofiadau. Gwrandewch!