Iechyd Meddwl – rhywbeth sy’n bwysig i ni gyd. Podlediad Llwyddo’n Lleol 2050

Arddun o meddwl.org yn sgwrsio gydag Erin, un o griw Llwyddo’n Lleol.

Mae gan bawb iechyd meddwl, ond nid pawb sy’n siŵr sut i siarad amdano ar adegau. Mae hyn yn enwedig pan nad yw’r meddwl mor iach ac y gallai fod. Dyma Arddun (meddwl.org) yn sgwrsio gydag Erin, un o’r criw Llwyddo’n Lleol sydd newydd gymhwyso fel hyfforddwraig iechyd meddwl ac eisiau datblygu ei gwasanaeth. Trafodaeth onest sydd yma, gan obeithio bydd y gwaith mae’r ddwy yn ei wneud yn eu meysydd yn cynnig help llaw i’r rhai hynny sydd ei angen. “Does dim cywilydd gofyn am help…”