
Wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg yn dy fusnes? Cysyllta gyda Helo Blod.
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim!
Gyda’n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes.
Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae Helo Blod yma i dy helpu!
Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
- Cyfieithu am ddim – Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg bob mis, yn rhad ac am ddim.
- Gwirio testun – Mae Helo Blod yn gallu gwirio 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim, felly byddi di’n hyderus bod y deunydd rwyt ti’n ei ddefnyddio yn Gymraeg yn gywir. Rho gynnig arni!
- Cyngor ac arweiniad – Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac os oes angen unrhyw beth arall yn ychwanegol, fe wnaiff Helo Blod dy gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu.
- Nwyddau– Mae Helo Blod hefyd yn dosbarthu laniardiau a bathodynnau Iaith Gwaith sy’n nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu’n dysgu Cymraeg.
Dod â phobl at ei gilydd.
Creu ewyllys da.
Cadw cwsmeriaid ffyddlon.
Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Cer draw i’r wefan i ddarganfod mwy!